Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu, |
| 2 |
| rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon, a phob amser yn codi cythrwfl. |
| 3 |
| Y mae eu tafod yn finiog fel sarff, ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau. Sela. |
| 4 |
| O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus; cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu, rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed. |
| 5 |
| Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi, a rhai dinistriol yn taenu rhwyd, ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd. Sela. |
| 6 |
| Dywedais wrth yr ARGLWYDD, "Fy Nuw wyt ti"; gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi. |
| 7 |
| O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn, cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. |
| 8 |
| O ARGLWYDD, paid rhoi eu dymuniad i'r drygionus, paid llwyddo eu bwriad. Sela. |
| 9 |
| Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen, ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu. |
| 10 |
| Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt; bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi. |
| 11 |
| Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad; bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed. |
| 12 |
| Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder 'r truan, ac y rhydd farn i'r anghenus. |
| 13 |
| Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw; bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/140.mp3
150
140