Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, gwaeddaf arnat, brysia ataf; gwrando ar fy llef pan alwaf arnat. |
| 2 |
| Bydded fy ngweddi fel arogldarth o'th flaen, ac estyniad fy nwylo fel offrwm hwyrol. |
| 3 |
| O ARGLWYDD, gosod warchod ar fy ngenau, gwylia dros ddrws fy ngwefusau. |
| 4 |
| Paid throi fy nghalon at bethau drwg, i fod yn brysur wrth weithredoedd drygionus gyda rhai sy'n wneuthurwyr drygioni; paid gadael imi fwyta o'u danteithion. |
| 5 |
| Bydded i'r cyfiawn fy nharo mewn cariad a'm ceryddu, ond na fydded i olew'r drygionus eneinio fy mhen, oherwydd y mae fy ngweddi yn wastad yn erbyn eu drygioni. |
| 6 |
| Pan fwrir eu barnwyr yn erbyn craig, byddant yn gwybod mor ddymunol oedd fy ngeiriau. |
| 7 |
| Fel darnau o bren neu o graig ar y llawr, bydd eu hesgyrn wedi eu gwasgaru yng ngenau Sheol. |
| 8 |
| Y mae fy llygaid arnat ti, O ARGLWYDD Dduw; ynot ti y llochesaf; paid 'm gadael heb amddiffyn. |
| 9 |
| Cadw fi o'r rhwyd a osodwyd imi, ac o fagl y gwneuthurwyr drygioni. |
| 10 |
| Bydded i'r drygionus syrthio i'w rhwydau eu hunain, a myfi fy hun yn mynd heibio. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/141.mp3
150
141