×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 142

1
1 Mascl. I Ddafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi.0 Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD, ymbiliaf yn uchel ar yr ARGLWYDD.
2
Arllwysaf fy nghwyn o'i flaen, a mynegaf fy nghyfyngder yn ei bresenoldeb.
3
Pan yw fy ysbryd yn pallu, yr wyt ti'n gwybod fy llwybr. Ar y llwybr a gerddaf y maent wedi cuddio magl.
4
Edrychaf i'r dde, a gweld nad oes neb yn gyfaill imi; nid oes dihangfa imi, na neb yn malio amdanaf.
5
Gwaeddais arnat ti, O ARGLWYDD; dywedais, "Ti yw fy noddfa, a'm rhan yn nhir y rhai byw."
6
Gwrando ar fy nghri, oherwydd fe'm darostyngwyd yn isel; gwared fi oddi wrth fy erlidwyr, oherwydd y maent yn gryfach na mi.
7
Dwg fi allan o'm caethiwed, er mwyn imi glodfori dy enw. Bydd y rhai cyfiawn yn tyrru ataf pan fyddi di yn dda wrthyf.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau