Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Mascîl. Salm gan Dafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi. [1] Dw i'n gweiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD; dw i'n pledio ar i'r ARGLWYDD fy helpu. |
| 2 |
| Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen, ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion. |
| 3 |
| Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr, rwyt ti'n gwylio'r ffordd i mi. Maen nhw wedi cuddio magl ar y llwybr o'm blaen i. |
| 4 |
| Dw i'n edrych i'r dde — ond does neb yn cymryd sylw ohono i. Mae dianc yn amhosib! — does neb yn poeni amdana i. |
| 5 |
| Dw i'n gweiddi arnat ti, ARGLWYDD; a dweud, “Ti ydy'r unig le saff i mi fynd, does gen i neb arall ar dir y byw!” |
| 6 |
| Gwranda arna i'n gweiddi, dw i'n teimlo mor isel. Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl; maen nhw'n rhy gryf i mi. |
| 7 |
| Gollwng fi'n rhydd o'r carchar yma, er mwyn i mi foli dy enw di. Bydd y rhai cyfiawn yn casglu o'm cwmpas am dy fod ti wedi achub fy ngham. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/142.mp3
150
142