Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, gwrando ar fy ngweddi. Gwranda arna i'n pledio am dy help di! Ti'n Dduw ffyddlon a chyfiawn, felly plîs ateb fi. |
| 2 |
| Paid rhoi dy was ar brawf, achos does neb yn ddieuog yn dy olwg di. |
| 3 |
| Mae'r gelyn wedi dod ar fy ôl i, ac wedi fy sathru i'r llawr. Mae wedi gwneud i mi eistedd yn y tywyllwch fel y rhai sydd wedi marw ers talwm. |
| 4 |
| Dw i'n anobeithio! Dw i wedi fy mharlysu gan ddychryn! |
| 5 |
| Ond wedyn dw i'n cofio am beth wnest ti yn y gorffennol, ac yn myfyrio ar y cwbl wnest ti ei gyflawni. |
| 6 |
| Dw i'n estyn fy nwylo allan atat ti. Dw i fel tir sych yn hiraethu am law! Saib |
| 7 |
| Brysia! Ateb fi, ARGLWYDD! Alla i ddim diodde dim mwy! Paid troi i ffwrdd oddi wrtho i, neu bydda i'n syrthio i bwll marwolaeth. |
| 8 |
| Gad i mi glywed am dy gariad ffyddlon di yn y bore, achos dw i'n dy drystio di. Gad i mi wybod pa ffordd i fynd — dw i'n dyheu amdanat ti! |
| 9 |
| Achub fi o afael y gelyn, O ARGLWYDD; dw i'n rhedeg atat ti am gysgod. |
| 10 |
| Dysga fi i wneud beth wyt ti eisiau, achos Ti ydy fy Nuw i. Boed i dy Ysbryd hael di fy arwain i rywle saff. |
| 11 |
| Achub fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw da. Ti'n Dduw cyfiawn, felly arwain fi allan o'r helynt yma. |
| 12 |
| Rwyt ti mor ffyddlon. Delia gyda'r gelynion! Dinistria'r rhai sy'n ymosod arna i, achos dy was di ydw i. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/143.mp3
150
143