×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 144

1
Salm Dafydd. [1] Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a'm bysedd i ryfela.
2
Fy nhrugaredd, a'm hamddiffynfa; fy nhŵr, a'm gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.
3
ARGLWYDD, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?
4
Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.
5
ARGLWYDD, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â'r mynyddoedd, a mygant.
6
Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.
7
Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
8
Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.
9
Canaf i ti, O DDUW, ganiad newydd: ar y nabl a'r dectant y canaf i ti.
10
Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.
11
Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:
12
Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a'n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:
13
Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a'n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:
14
A'n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.
15
Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddynt.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau