×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 145

1
1 Emyn Mawl. I Ddafydd.0 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin, a bendithiaf dy enw byth bythoedd.
2
Bob dydd bendithiaf di, a moliannu dy enw byth bythoedd.
3
Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl, ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.
4
Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall, a mynegi dy weithredoedd nerthol.
5
Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant, a myfyrio ar dy ryfeddodau.
6
Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy, ac adrodd am dy fawredd.
7
Dygant i gof dy ddaioni helaeth, a chanu am dy gyfiawnder.
8
Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD, araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.
9
Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb, ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.
10
Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD, a'th saint yn dy fendithio.
11
Dywedant am ogoniant dy deyrnas, a sn am dy nerth,
12
er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol ac ysblander gogoneddus dy deyrnas.
13
Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas, a saif dy lywodraeth byth bythoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau, ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.
14
Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio, a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.
15
Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti, ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;
16
y mae dy law yn agored, ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn l d'ewyllys.
17
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
18
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
19
Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni; gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.
20
Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu, ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.
21
Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD, a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd byth bythoedd.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau