1
Cân o fawl. Salm Dafydd. [1] Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin, a bendithio dy enw di am byth bythoedd!
2
Dw i eisiau dy ganmol di bob dydd a dy foli di am byth bythoedd!
3
Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli! Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni.
4
Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd, ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.
5
Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd, a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud.
6
Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud, a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion.
7
Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di, ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.
8
Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
9
Mae'r ARGLWYDD yn dda i bawb; mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud.
10
Mae'r cwbl rwyt ti wedi ei greu yn dy foli di, O ARGLWYDD! Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!
11
Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad, ac yn siarad am dy nerth;
12
er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud, ac am ysblander dy deyrnasiad.
13
Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd, ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau! Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air; ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.
14
Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio, ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.
15
Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti, a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
16
Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael! Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw.
17
Mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn bob amser, ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.
18
Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno; at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno.
19
Mae'n rhoi eu dymuniad i'r rhai sy'n ei barchu; mae'n eu clywed nhw'n galw, ac yn eu hachub.
20
Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy'n ei garu, ond bydd yn dinistrio'r rhai drwg i gyd.
21
Bydda i'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD i'w foli, a bydd pob creadur byw yn bendithio ei enw sanctaidd, … am byth bythoedd!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023