Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola'r ARGLWYDD. |
| 2 |
| Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw, canaf fawl i'm Duw tra byddaf. |
| 3 |
| Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion, mewn unrhyw un na all waredu; |
| 4 |
| bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear, a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau. |
| 5 |
| Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo, ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw, |
| 6 |
| creawdwr nefoedd a daear a'r mr, a'r cyfan sydd ynddynt. Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth, |
| 7 |
| ac yn gwneud barn 'r gorthrymedig; y mae'n rhoi bara i'r newynog. Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion; |
| 8 |
| y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion, ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng; y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn. |
| 9 |
| Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid, ac yn cynnal y weddw a'r amddifad; y mae'n difetha ffordd y drygionus. |
| 10 |
| Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu hyd byth, a'th Dduw di, O Seion, dros y cenedlaethau. Molwch yr ARGLWYDD. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/146.mp3
150
146