×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 147

1
Molwch yr ARGLWYDD. Da yw canu mawl i'n Duw ni, oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.
2
Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem, y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.
3
Y mae'n iachu'r rhai drylliedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
4
Y mae'n pennu nifer y sr, ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.
5
Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth; y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
6
Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig, ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.
7
Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch, canwch fawl i'n Duw 'r delyn.
8
Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd chymylau, ac yn darparu glaw i'r ddaear; y mae'n gwisgo'r mynyddoedd glaswellt, a phlanhigion at wasanaeth pobl.
9
Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid, a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.
10
Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march, nac yn cael pleser yng nghyhyrau gu373?r;
11
ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni, y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
12
Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem; mola dy Dduw, O Seion,
13
oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth, a bendithiodd dy blant o'th fewn.
14
Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau, ac yn dy ddigoni 'r u375?d gorau.
15
Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear, ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.
16
Y mae'n rhoi eira fel gwln, yn taenu barrug fel lludw,
17
ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion; pwy a all ddal ei oerni ef?
18
Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi; gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd.
19
Y mae'n mynegi ei air i Jacob, ei ddeddfau a'i farnau i Israel;
20
ni wnaeth fel hyn ag unrhyw genedl, na dysgu iddynt ei farnau. Molwch yr ARGLWYDD.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau