|
| 1 |
|
| Haleliwia! [1] Mae mor dda canu mawl i Dduw! Mae'n beth hyfryd rhoi iddo'r mawl mae'n ei haeddu. |
|
| 2 |
|
| Mae'r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem, ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion. |
|
| 3 |
|
| Mae e'n iacháu y rhai sydd wedi torri eu calonnau, ac yn rhwymo eu briwiau. |
|
| 4 |
|
| Mae e wedi cyfri'r sêr i gyd, a rhoi enw i bob un ohonyn nhw. |
|
| 5 |
|
| Mae'n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf! Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw! |
|
| 6 |
|
| Mae'r ARGLWYDD yn rhoi hyder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu, ond yn bwrw'r rhai drwg i'r llawr. |
|
| 7 |
|
| Canwch gân o fawl i'r ARGLWYDD, a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach. |
|
| 8 |
|
| Mae'n gorchuddio'r awyr gyda chymylau, ac yn rhoi glaw i'r ddaear. Mae'n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd, |
|
| 9 |
|
| yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt, ac i gywion y gigfran pan maen nhw'n galw. |
|
| 10 |
|
| Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno, a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu. |
|
| 11 |
|
| Y bobl sy'n ei barchu sy'n plesio'r ARGLWYDD; y rhai hynny sy'n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon. |
|
| 12 |
|
| O Jerwsalem, canmol yr ARGLWYDD! O Seion, mola dy Dduw! |
|
| 13 |
|
| Mae e wedi gwneud barrau dy giatiau yn gryf, ac wedi bendithio dy blant o dy fewn. |
|
| 14 |
|
| Mae'n gwneud dy dir yn ddiogel, ac yn rhoi digonedd o'r ŷd gorau i ti. |
|
| 15 |
|
| Mae'n anfon ei orchymyn drwy'r ddaear, ac mae'n cael ei wneud ar unwaith. |
|
| 16 |
|
| Mae'n anfon eira fel gwlân, yn gwasgaru barrug fel lludw, |
|
| 17 |
|
| ac yn taflu cenllysg fel briwsion. Pwy sy'n gallu goddef yr oerni mae'n ei anfon? |
|
| 18 |
|
| Wedyn mae'n gorchymyn i'r cwbl feirioli — mae'n anadlu arno ac mae'r dŵr yn llifo. |
|
| 19 |
|
| Mae wedi rhoi ei neges i Jacob, ei ddeddfau a'i ganllawiau i bobl Israel. |
|
| 20 |
|
| Wnaeth e ddim hynny i unrhyw wlad arall; dŷn nhw'n gwybod dim am ei reolau. Haleliwia! |
|
|
|
|