×

Beibl William Morgan 1955

Salmau 148

1
Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
2
Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
3
Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
4
Molwch ef, nef y nefoedd; a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5
Molant enw yr ARGLWYDD: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
6
A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
7
Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear, y dreigiau, a'r holl ddyfnderau:
8
Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
9
Y mynyddoedd a'r bryniau oll; y coed ffrwythlon a'r holl gedrwydd:
10
Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
11
Brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
12
Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:
13
Molant enw yr ARGLWYDD: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.
14
Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.
Welsh Bible 1955
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible 1955 British and Foreign Bible Society
:
Cadw Nodiadau