Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Molwch yr ARGLWYDD. Canwch i'r ARGLWYDD gn newydd, ei foliant yng nghynulleidfa'r ffyddloniaid. |
| 2 |
| Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr, ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin. |
| 3 |
| Molwch ei enw dawns, canwch fawl iddo thympan a thelyn. |
| 4 |
| Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl; y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig. |
| 5 |
| Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant, a llawenhau ar eu clustogau. |
| 6 |
| Bydded uchel-foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu llaw |
| 7 |
| i weithredu dial ar y cenhedloedd a cherydd ar y bobloedd; |
| 8 |
| i rwymo eu brenhinoedd mewn cadwynau, a'u pendefigion gefynnau haearn; |
| 9 |
| i weithredu'r farn a nodwyd ar eu cyfer. Ef yw gogoniant ei holl ffyddloniaid. Molwch yr ARGLWYDD. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/149.mp3
150
149