Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Haleliwia! Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon. |
| 2 |
| Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr! Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin! |
| 3 |
| Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns; ac ar y drwm a'r delyn fach. |
| 4 |
| Achos mae'r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda'i bobl! Mae'n gwisgo'r rhai sy'n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth. |
| 5 |
| Boed i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu; a gweiddi'n llawen wrth orffwys ar eu clustogau. |
| 6 |
| Canu mawl i Dduw gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo, |
| 7 |
| yn barod i gosbi'r cenhedloedd, a dial ar y bobloedd. |
| 8 |
| Gan rwymo eu brenhinoedd â chadwyni, a'u pobl bwysig mewn hualau haearn. |
| 9 |
| Dyma'r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw; a'r fraint fydd i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon. Haleliwia! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/149.mp3
150
149