Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Salm. I Ddafydd.0 ARGLWYDD, pwy a gaiff aros yn dy babell? Pwy a gaiff fyw yn dy fynydd sanctaidd? |
| 2 |
| Yr un sy'n byw yn gywir, yn gwneud cyfiawnder, ac yn dweud gwir yn ei galon; |
| 3 |
| un nad oes malais ar ei dafod, nad yw'n gwneud niwed i'w gyfaill, nac yn goddef enllib am ei gymydog; |
| 4 |
| un sy'n edrych yn ddirmygus ar yr ysgymun, ond yn parchu'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD; un sy'n tyngu i'w niwed ei hun, a heb dynnu'n l; |
| 5 |
| un nad yw'n rhoi ei arian am log, nac yn derbyn cil-dwrn yn erbyn y diniwed. Pwy bynnag a wna hyn, nis symudir byth. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/015.mp3
150
15