Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Haleliwia! Molwch Dduw yn ei deml! Molwch e yn ei nefoedd gadarn! |
| 2 |
| Molwch e am wneud pethau mor fawr! Molwch e am ei fod mor wych! |
| 3 |
| Molwch e drwy chwythu'r corn hwrdd! Molwch e gyda'r nabl a'r delyn! |
| 4 |
| Molwch e gyda drwm a dawns! Molwch e gyda llinynnau a ffliwt! |
| 5 |
| Molwch e gyda sŵn symbalau! Molwch e gyda symbalau'n atseinio! |
| 6 |
| Boed i bopeth sy'n anadlu foli'r ARGLWYDD! Haleliwia! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/150.mp3
150
150