×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 16

1
1 Michtam. I Ddafydd.0 Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti.
2
Dywedais wrth yr ARGLWYDD, "Ti yw f'arglwydd, nid oes imi ddaioni ond ynot ti."
3
Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad, melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.
4
Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill; ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm, na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
5
Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan, ti sy'n diogelu fy rhan;
6
syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
7
Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
8
Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
9
Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd, a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;
10
oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol, ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.
11
Dangosi i mi lwybr bywyd; yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd, ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau