×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 16

1
Wedi ei chofnodi gan Dafydd. [1] Amddiffyn fi, O Dduw; dw i'n troi atat ti am loches.
2
Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti ydy fy Meistr i; mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”
3
Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr, dw i wrth fy modd gyda nhw.
4
Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraill yn cael llwyth o drafferthion! Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed. Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!
5
Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau. Mae fy nyfodol i yn dy law di.
6
Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi; mae gen i etifeddiaeth hyfryd.
7
Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i; ac am siarad gyda mi yn y nos.
8
Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi. Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.
9
Felly, mae fy nghalon i'n llawen! Dw i'n gorfoleddu! Dw i'n gwybod y bydda i'n saff!
10
Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw, na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
11
Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd a hyfrydwch diddiwedd bob amser.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau