×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 17

1
1 Gweddi. I Ddafydd.0 Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder; rho sylw i'm llef a gwrandawiad i'm gweddi oddi ar wefusau didwyll.
2
Doed fy marn oddi wrthyt ti, edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn.
3
Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos, chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof.
4
Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill, ond fe gedwais eiriau dy wefusau.
5
Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu, ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.
6
Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw; tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.
7
Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol, ti, sy'n gwaredu 'th ddeheulaw y rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.
8
Cadw fi fel cannwyll dy lygad, cuddia fi dan gysgod dy adenydd
9
rhag y drygionus sy'n fy nistrywio, y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu.
10
Maent wedi mygu tosturi, y mae eu genau'n llefaru balchder;
11
y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf, wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr;
12
y maent fel llew yn barod i larpio, fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan.
13
Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr! 'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus;
14
'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt, difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd. Llanwer eu bol 'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer, bydded i'w plant gael digon, a chadw gweddill i'w babanod!
15
Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn gweld dy wyneb; pan ddeffroaf, digonir fi o weld dy wedd.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau