Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo. |
| 2 |
| Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos. |
| 3 |
| Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais; |
| 4 |
| eto fe eu sain allan drwy'r holl ddaear a'u lleferydd hyd eithafoedd byd. Ynddynt gosododd babell i'r haul, |
| 5 |
| sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell, yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs. |
| 6 |
| O eithaf y nefoedd y mae'n codi, a'i gylch hyd yr eithaf arall; ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres. |
| 7 |
| Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth; |
| 8 |
| y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid; |
| 9 |
| y mae ofn yr ARGLWYDD yn ln, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un. |
| 10 |
| Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na ml, ac na diferion diliau ml. |
| 11 |
| Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi, ac o'u cadw y mae gwobr fawr. |
| 12 |
| Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd. |
| 13 |
| Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar, rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf. Yna byddaf yn ddifeius, ac yn ddieuog o bechod mawr. |
| 14 |
| Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/019.mp3
150
19