×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 19

1
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw, a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
2
Mae'r neges yn mynd allan bob dydd; mae i'w weld yn amlwg bob nos!
3
Does dim llais go iawn, na geiriau, na dim i'w glywed yn llythrennol.
4
Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud; a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd! Cododd babell i'r haul yn yr awyr.
5
Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell; neu athletwr yn frwd i redeg ras.
6
Mae'n codi ar y gorwel, ac yn symud o un pen i'r llall. Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
7
Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith — mae'n rhoi bywyd newydd i mi! Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glir ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.
8
Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy'n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen. Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur ac yn ein goleuo ni.
9
Mae'r gorchymyn i barchu'r ARGLWYDD yn glir ac yn aros bob amser. Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir — mae e'n gwbl deg bob amser.
10
Mae'r pethau yma'n fwy gwerthfawr nag aur — ie, llwythi o aur coeth! Maen nhw'n felysach na'r mêl sy'n diferu o'r diliau.
11
Ydyn, maen nhw'n rhoi goleuni i dy was; ac mae gwobr fawr i'r rhai sy'n ufuddhau.
12
Ond pwy sy'n gweld ei feiau ei hun? O, maddau i mi pan dw i'n pechu heb yn wybod,
13
a cadw fi rhag pechu'n fwriadol. Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i. Yna byddaf yn ddi-fai, a dieuog o droseddu yn dy erbyn.
14
Gad i'r cwbl dw i'n ei ddweud a'i feddwl dy blesio di, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm hachubwr.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau