Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r bobloedd yn cynllwyn yn ofer? |
| 2 |
| Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod, a'r llywodraethwyr yn ymgynghori 'i gilydd yn erbyn yr ARGLWYDD a'i eneiniog: |
| 3 |
| "Gadewch inni ddryllio eu rhwymau, a thaflu ymaith eu rheffynnau." |
| 4 |
| Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd; y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar. |
| 5 |
| Yna fe lefara wrthynt yn ei lid a'u dychryn yn ei ddicter: |
| 6 |
| "Yr wyf fi wedi gosod fy mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd." |
| 7 |
| Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD. Dywedodd wrthyf, "Fy mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw; |
| 8 |
| gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth, ac eithafoedd daear yn eiddo iti; |
| 9 |
| fe'u drylli gwialen haearn a'u malurio fel llestr pridd." |
| 10 |
| Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth; farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor; |
| 11 |
| gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, mewn cryndod cusanwch ei draed, |
| 12 |
| rhag iddo ffromi ac i chwi gael eich difetha; oherwydd fe gyneua ei lid mewn dim. Gwyn eu byd y rhai sy'n llochesu ynddo. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/002.mp3
150
2