×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 2

1
Pam mae'r cenhedloedd yn gwrthryfela? Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
2
Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad; a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr ARGLWYDD a'r un mae wedi'i ddewis, y brenin.
3
“Gadewch i ni dorri'n rhydd o'u cadwynau, a thaflu'r rhaffau sy'n ein rhwymo i ffwrdd!”
4
Mae'r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin — maen nhw'n destun sbort i'r ARGLWYDD!
5
Wedyn mae'n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig, ac yn dweud wrthyn nhw'n ddig:
6
“Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion, fy mynydd cysegredig!”
7
Gadewch i mi ddweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddatgan: Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy mab i; heddiw des i yn Dad i ti.
8
Dim ond i ti ofyn, cei etifeddu'r cenhedloedd. Bydd dy ystad di yn ymestyn i ben draw'r byd.
9
Byddi'n eu malu â phastwn haearn yn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”
10
Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth; dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!
11
Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch; byddwch yn falch ei fod wedi'ch dychryn chi!
12
Plygwch, a thalu teyrnged i'r mab; neu bydd yn digio a cewch eich difa pan fydd yn dangos mor ddig ydy e. Mae pawb sy'n troi ato am loches wedi eu bendithio'n fawr!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau