Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer? |
| 2 |
| Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a'r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, |
| 3 |
| Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym. |
| 4 |
| Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a'u gwatwar hwynt. |
| 5 |
| Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt. |
| 6 |
| Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd. |
| 7 |
| Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a'th genhedlais. |
| 8 |
| Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant. |
| 9 |
| Drylli hwynt â gwialen haearn; maluri hwynt fel llestr pridd. |
| 10 |
| Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg. |
| 11 |
| Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn. |
| 12 |
| Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/psalms/002.mp3
150
2