×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 20

1
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] Boed i'r ARGLWYDD dy ateb pan wyt mewn trafferthion; boed i Dduw Jacob dy gadw di'n saff.
2
Boed iddo anfon help o'r cysegr, a rhoi nerth i ti o Seion.
3
Boed iddo gofio dy holl offrymau, a derbyn dy offrymau sydd i'w llosgi. Saib
4
Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau, a dod â dy gynlluniau di i gyd yn wir.
5
Wedyn byddwn yn bloeddio'n llawen am dy fod wedi ennill y frwydr! Byddwn yn codi baner i enw ein Duw. Boed i'r ARGLWYDD roi i ti bopeth wyt ti'n gofyn amdano!
6
Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDD yn achub ei eneiniog, y brenin. Bydd yn ei ateb o'r cysegr yn y nefoedd ac yn rhoi buddugoliaeth ryfeddol iddo, trwy ei nerth.
7
Mae rhai yn brolio yn eu cerbydau rhyfel a'u meirch, ond dŷn ni'n brolio'r ARGLWYDD ein Duw.
8
Byddan nhw'n syrthio ar lawr, ond byddwn ni'n sefyll yn gadarn.
9
Bydd yr ARGLWYDD yn achub y brenin. Bydd yn ateb pan fyddwn ni'n galw arno.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau