Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth; mor fawr yw ei orfoledd yn dy waredigaeth! |
| 2 |
| Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon, ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau. Sela. |
| 3 |
| Daethost i'w gyfarfod bendithion daionus, a rhoi coron o aur coeth ar ei ben. |
| 4 |
| Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo hir ddyddiau byth bythoedd. |
| 5 |
| Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth; yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd, |
| 6 |
| yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros byth ac yn ei lawenhau gorfoledd dy bresenoldeb. |
| 7 |
| Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD, ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir. |
| 8 |
| Caiff dy law afael ar dy holl elynion, a'th ddeheulaw ar y rhai sy'n dy gasu. |
| 9 |
| Byddi'n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan ymddangosi; bydd yr ARGLWYDD yn eu difa yn ei lid, a'r tn yn eu hysu. |
| 10 |
| Byddi'n dinistrio'u hepil oddi ar y ddaear, a'u plant o blith y ddynolryw. |
| 11 |
| Yr oeddent yn bwriadu drwg yn d'erbyn, ac yn cynllunio niwed heb lwyddo; |
| 12 |
| oherwydd byddi di'n gwneud iddynt ffoi, ac yn anelu at eu hwynebau 'th fwa. |
| 13 |
| Dyrchafa, ARGLWYDD, yn dy nerth! Cawn ganu a'th ganmol am dy gryfder! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/021.mp3
150
21