Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, mae'r brenin yn llawen am dy fod ti'n ei nerthu; mae'n gorfoleddu'n fawr am dy fod yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo! |
| 2 |
| Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau, wnest ti ddim gwrthod beth oedd e'n gofyn amdano. Saib |
| 3 |
| Ti'n ei fendithio â phopeth da, ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben. |
| 4 |
| Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo — bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros. |
| 5 |
| Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo. Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas. |
| 6 |
| Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth, a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni. |
| 7 |
| Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD. Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon, felly fydd dim byd yn ei ysgwyd. |
| 8 |
| Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion; byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu. |
| 9 |
| Pan fyddi'n dod i'r golwg byddi'n eu llosgi nhw mewn ffwrnais. Mae'r ARGLWYDD yn ddig, a bydd yn eu dinistrio nhw; bydd tân yn eu llosgi nhw. |
| 10 |
| Byddi'n cael gwared â'u disgynyddion o'r ddaear; byddan nhw'n diflannu o blith y ddynoliaeth. |
| 11 |
| Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti; roedd ganddyn nhw gynllun ond allen nhw byth lwyddo. |
| 12 |
| Ti'n gwneud iddyn nhw droi yn ôl drwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw. |
| 13 |
| Cod, ARGLWYDD! Dangos dy nerth! Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/021.mp3
150
21