×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 23

1
Salm Dafydd. [1] Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.
2
Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd; ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel.
3
Mae'n rhoi bywyd newydd i mi, ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd. Ydy, mae e'n enwog am ei ofal.
4
Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi. Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
5
Rwyt ti'n paratoi gwledd i mi ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio. Rwyt ti'n tywallt olew ar fy mhen. Mae gen i fwy na digon!
6
Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon gyda mi weddill fy mywyd. A byddaf yn byw eto yn nhŷ'r ARGLWYDD am byth.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau