×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 24

1
1 Salm. I Ddafydd.0 Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder, y byd a'r rhai sy'n byw ynddo;
2
oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedd a'i sefydlu ar yr afonydd.
3
Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD a phwy a saif yn ei le sanctaidd?
4
Y gln ei ddwylo a'r pur o galon, yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwyll a heb dyngu'n gelwyddog.
5
Fe dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.
6
Dyma'r genhedlaeth sy'n ei geisio, sy'n ceisio wyneb Duw Jacob. Sela.
7
Codwch eich pennau, O byrth! Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol! i frenin y gogoniant ddod i mewn.
8
Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? Yr ARGLWYDD, cryf a chadarn, yr ARGLWYDD, cadarn mewn rhyfel.
9
Codwch eich pennau, O byrth! Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol! i frenin y gogoniant ddod i mewn.
10
Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y Lluoedd, ef yw brenin y gogoniant. Sela.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau