×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 24

1
Salm Dafydd. [1] Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi; y byd, a phawb sy'n byw ynddo.
2
Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd, a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.
3
Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD? Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? —
4
Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur; yr un sydd ddim yn twyllo neu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
5
Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly; byddan nhw'n cael eu derbyn i berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.
6
Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato: y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob. Saib
7
Giatiau'r ddinas, edrychwch! Agorwch, chi ddrysau tragwyddol, er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
8
Pwy ydy'r Brenin gwych yma? — yr ARGLWYDD, cryf a dewr, yr ARGLWYDD sy'n ennill pob brwydr!
9
Giatiau'r ddinas, edrychwch! Agorwch, chi ddrysau tragwyddol, er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
10
Pwy ydy'r Brenin gwych yma? — Yr ARGLWYDD holl-bwerus! Fe ydy'r Brenin gwych! Saib
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau