×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 25

1
1 I Ddafydd.0 Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid;
2
O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried; paid dwyn cywilydd arnaf, paid gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
3
Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti, ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos.
4
Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD, hyffordda fi yn dy lwybrau.
5
Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi, oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y bm yn disgwyl trwy'r dydd.
6
O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb, oherwydd y maent erioed.
7
Paid chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel, ond yn dy gariad cofia fi, er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.
8
Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn, am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.
9
Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn, a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.
10
Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirionedd i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.
11
Er mwyn dy enw, ARGLWYDD, maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.
12
Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD, fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;
13
fe gaiff fyw'n ffyniannus, a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.
14
Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDD a hefyd ei gyfamod i'w dysgu.
15
Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.
16
Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf, oherwydd unig ac anghenus wyf fi.
17
Esmwyth gyfyngder fy nghalon, a dwg fi allan o'm hadfyd.
18
Edrych ar fy nhrueni a'm gofid, a maddau fy holl bechodau.
19
Gwl mor niferus yw fy ngelynion ac fel y maent yn fy nghasu chas perffaith.
20
Cadw fi a gwared fi, na ddoed cywilydd arnaf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu.
21
Bydd cywirdeb ac uniondeb yn fy niogelu, oherwydd gobeithiais ynot ti.
22
O Dduw, gwareda Israel o'i holl gyfyngderau.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau