Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I Ddafydd.0 Barna fi, O ARGLWYDD, oherwydd rhodiais yn gywir ac ymddiried yn yr ARGLWYDD heb ballu. |
| 2 |
| Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi, rho brawf ar fy nghalon a'm meddwl. |
| 3 |
| Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid, ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd. |
| 4 |
| Ni fm yn eistedd gyda rhai diwerth, nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr. |
| 5 |
| Yr wyf yn casu cwmni'r rhai drwg, ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus. |
| 6 |
| Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog, ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD, |
| 7 |
| a chanu'n uchel mewn diolchgarwch ac adrodd dy holl ryfeddodau. |
| 8 |
| O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tu375? lle'r wyt yn trigo, y man lle mae dy ogoniant yn aros. |
| 9 |
| Paid 'm rhoi gyda phechaduriaid, na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd, |
| 10 |
| rhai sydd chamwri ar eu dwylo a'u deheulaw'n llawn o lwgr-wobrwyon. |
| 11 |
| Ond amdanaf fi, yr wyf yn rhodio'n gywir; gwareda fi a bydd drugarog wrthyf. |
| 12 |
| Y mae fy nhraed yn gadarn mewn uniondeb; bendithiaf yr ARGLWYDD yn y gynulleidfa. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/026.mp3
150
26