Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Salm Dafydd. [1] Achub fy ngham, O ARGLWYDD, dw i wedi bod yn onest. Dw i wedi dy drystio di ARGLWYDD bob amser. |
| 2 |
| Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf! Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod. |
| 3 |
| Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti — a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen. |
| 4 |
| Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo, nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest. |
| 5 |
| Dw i'n casáu cwmni dynion drwg, ac yn gwrthod cyngor pobl felly. |
| 6 |
| Dw i'n golchi fy nwylo'n lân, ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD. |
| 7 |
| Dw i eisiau diolch i ti, a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti. |
| 8 |
| O ARGLWYDD, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw; y fan lle mae dy ysblander i'w weld. |
| 9 |
| Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid, na'm lladd gyda'r bobl dreisgar |
| 10 |
| sydd bob amser yn cynllwyn rhyw ddrwg, neu'n barod i gynnig breib. |
| 11 |
| Dw i wedi bod yn onest. Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i! |
| 12 |
| Dw i'n gwybod fy mod i'n saff. Bydda i'n addoli'r ARGLWYDD eto gyda'i bobl. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/026.mp3
150
26