Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I Ddafydd.0 Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? |
| 2 |
| Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i'm hysu i'r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, fydd yn baglu ac yn syrthio. |
| 3 |
| Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe di rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus. |
| 4 |
| Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhu375?'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml. |
| 5 |
| Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig. |
| 6 |
| Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD. |
| 7 |
| Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi. |
| 8 |
| Dywedodd fy nghalon amdanat, "Ceisia ei wyneb"; am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD. |
| 9 |
| Paid chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid 'm gwrthod na'm gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr. |
| 10 |
| Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf, byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn. |
| 11 |
| Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD, arwain fi ar hyd llwybr union, oherwydd fy ngwrthwynebwyr. |
| 12 |
| Paid 'm gadael i fympwy fy ngelynion, oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog sy'n bygwth trais. |
| 13 |
| Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. |
| 14 |
| Disgwyl wrth yr ARGLWYDD, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/027.mp3
150
27