Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I Ddafydd.0 Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf; fy nghraig, paid thewi tuag ataf rhag, os byddi'n ddistaw, imi fod fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll. |
| 2 |
| Gwrando ar lef fy ngweddi pan waeddaf arnat am gymorth, pan godaf fy nwylo tua'th gysegr sanctaidd. |
| 3 |
| Paid 'm cipio ymaith gyda'r drygionus a chyda gwneuthurwyr drygioni, rhai sy'n siarad yn deg 'u cymdogion ond sydd chynnen yn eu calon. |
| 4 |
| Tl iddynt am eu gweithredoedd ac am ddrygioni eu gwaith; tl iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo, rho eu haeddiant iddynt. |
| 5 |
| Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDD na gwaith ei ddwylo ef, bydded iddo'u dinistrio a pheidio 'u hailadeiladu. |
| 6 |
| Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am iddo wrando ar lef fy ngweddi. |
| 7 |
| Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gn. |
| 8 |
| Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w bobl ac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog. |
| 9 |
| Gwareda dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth; bugeilia hwy a'u cario am byth. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/028.mp3
150
28