×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 28

1
Salm Dafydd. [1] O ARGLWYDD, arnat ti dw i'n galw! Paid diystyru fi — ti ydy fy nghraig i. Os gwnei di ddim ateb bydda i'n siŵr o ddisgyn i'r bedd!
2
Gwranda arna i'n galw — dw i'n erfyn am drugaredd! Dw i'n estyn fy nwylo at dy deml sanctaidd.
3
Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg, y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg. Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig ond does dim byd ond malais yn y galon.
4
Tala yn ôl iddyn nhw am wneud y fath beth! Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu! Cosba nhw!
5
Dŷn nhw ddim yn deall y ffordd mae'r ARGLWYDD yn gweithio. Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr, a fyddan nhw byth yn codi eto!
6
Bendith ar yr ARGLWYDD! Ydy, mae e wedi gwrando arna i yn erfyn am drugaredd!
7
Mae'r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi; mae e'n darian i'm hamddiffyn. Dw i'n ei drystio fe'n llwyr. Daeth i'm helpu, a dw i wrth fy modd! Felly dw i'n mynd i ganu mawl iddo!
8
Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
9
Achub dy bobl! Bendithia dy bobl sbesial! Gofala amdanyn nhw fel bugail a'u cario yn dy freichiau bob amser!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau