×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 3

1
1 Salm. I Ddafydd, pan ffodd rhag ei fab Absalom.0 ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr! Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,
2
a llawer yn dweud amdanaf, "Ni chaiff waredigaeth yn Nuw." Sela.
3
Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi, yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.
4
Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD, ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd. Sela.
5
Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu, ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.
6
Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl yn ymosod arnaf o bob tu.
7
Cyfod, ARGLWYDD; gwareda fi, O fy Nuw. Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb, ac yn torri dannedd y drygionus.
8
I'r ARGLWYDD y perthyn gwaredigaeth; bydded dy fendith ar dy bobl. Sela.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau