Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Salm gan Dafydd pan oedd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom. [1] O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion! Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i. |
| 2 |
| Mae cymaint ohonyn nhw'n dweud, “Fydd Duw ddim yn dod i'w achub e!” Saib |
| 3 |
| Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas. Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano! Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi. |
| 4 |
| Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr ARGLWYDD, bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig. Saib |
| 5 |
| Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro, am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i. |
| 6 |
| Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr sy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad. |
| 7 |
| Côd, ARGLWYDD! Achub fi, O fy Nuw. Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd. Torra ddannedd y rhai drwg. |
| 8 |
| “Yr ARGLWYDD sy'n achub!” Rwyt ti'n bendithio dy bobl! Saib |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/003.mp3
150
3