Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 Salm. Cn i gysegru'r deml. I Ddafydd.0 Dyrchafaf di, O ARGLWYDD, am iti fy ngwaredu, a pheidio gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos. |
| 2 |
| O ARGLWYDD fy Nuw, gwaeddais arnat, a bu iti fy iachu. |
| 3 |
| O ARGLWYDD, dygaist fi i fyny o Sheol, a'm hadfywio o blith y rhai sy'n disgyn i'r pwll. |
| 4 |
| Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid, a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd. |
| 5 |
| Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes; os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore. |
| 6 |
| Yn fy hawddfyd fe ddywedwn, "Ni'm symudir byth." |
| 7 |
| Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn, ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi. |
| 8 |
| Gelwais arnat ti, ARGLWYDD, ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd: |
| 9 |
| "Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll? A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd? |
| 10 |
| Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf; ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi." |
| 11 |
| Yr wyt wedi troi fy ngalar yn ddawns, wedi datod fy sachliain a'm gwisgo llawenydd, |
| 12 |
| er mwyn imi dy foliannu'n ddi-baid. O ARGLWYDD fy Nuw, diolchaf i ti hyd byth! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/030.mp3
150
30