Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Salm Dafydd. Cân ar gyfer cysegru'r deml. [1] Dw i'n dy ganmol di, O ARGLWYDD, am i ti fy nghodi ar fy nhraed; wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu. |
| 2 |
| O ARGLWYDD, fy Nuw, gwaeddais arnat ti a dyma ti'n fy iacháu i. |
| 3 |
| O ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw; a'm cadw rhag disgyn i'r bedd. |
| 4 |
| Canwch i'r ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon, a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e! |
| 5 |
| Dim ond am foment mae e'n ddig. Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd. Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos; ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen. |
| 6 |
| Roedd popeth yn mynd yn dda a minnau'n meddwl, “All dim byd fynd o'i le.” |
| 7 |
| Pan oeddet ti'n dangos dy ffafr, ARGLWYDD, roeddwn i'n gadarn fel y graig. Ond dyma ti'n troi dy gefn arna i, ac roedd arna i ofn am fy mywyd. |
| 8 |
| Dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD, ac yn pledio arnat ti fy Meistr: |
| 9 |
| “Beth ydy'r pwynt os gwna i farw, a disgyn i'r bedd? Fydd fy llwch i'n gallu dy foli di? Fydd e'n gallu sôn am dy ffyddlondeb? |
| 10 |
| Gwranda arna i, ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i. O ARGLWYDD, helpa fi!” |
| 11 |
| Yna dyma ti'n troi fy nhristwch yn ddawns; tynnu'r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu! |
| 12 |
| Felly dw i'n mynd i ganu i ti gyda'm holl galon — wna i ddim tewi! O ARGLWYDD fy Nuw, bydda i'n dy foli di bob amser. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/030.mp3
150
30