|
| 1 |
|
| 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches, na fydded cywilydd arnaf byth; achub fi yn dy gyfiawnder, |
|
| 2 |
|
| tro dy glust ataf, a brysia i'm gwaredu; bydd i mi'n graig noddfa, yn amddiffynfa i'm cadw. |
|
| 3 |
|
| Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi; er mwyn dy enw, arwain a thywys fi. |
|
| 4 |
|
| Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer, oherwydd ti yw fy noddfa. |
|
| 5 |
|
| Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di; gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon. |
|
| 6 |
|
| Yr wyf yn casu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag, ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD. |
|
| 7 |
|
| Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb, oherwydd iti edrych ar fy adfyd a rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder. |
|
| 8 |
|
| Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn, ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored. |
|
| 9 |
|
| Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae fy llygaid yn pylu gan ofid, fy enaid a'm corff hefyd; |
|
| 10 |
|
| y mae fy mywyd yn darfod gan dristwch a'm blynyddoedd gan gwynfan; fe sigir fy nerth gan drallod, ac y mae fy esgyrn yn darfod. |
|
| 11 |
|
| I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg, i'm cymdogion yn watwar, ac i'm cyfeillion yn arswyd; y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf. |
|
| 12 |
|
| Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof; yr wyf fel llestr wedi torri. |
|
| 13 |
|
| Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd, y mae dychryn ar bob llaw; pan ddnt at ei gilydd yn f'erbyn y maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd. |
|
| 14 |
|
| Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD, ac yn dweud, "Ti yw fy Nuw." |
|
| 15 |
|
| Y mae fy amserau yn dy law di; gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr. |
|
| 16 |
|
| Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was; achub fi yn dy ffyddlondeb. |
|
| 17 |
|
| ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat; doed cywilydd ar y drygionus, rhodder taw arnynt yn Sheol. |
|
| 18 |
|
| Trawer yn fud y gwefusau celwyddog, sy'n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawn mewn balchder a sarhad. |
|
| 19 |
|
| Mor helaeth yw dy ddaioni sydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni, ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot, a hynny yng ngu373?ydd pawb! |
|
| 20 |
|
| Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb rhag y rhai sy'n cynllwyn; fe'u cedwi dan dy gysgod rhag ymryson tafodau. |
|
| 21 |
|
| Bendigedig yw'r ARGLWYDD a ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol ataf yn nydd cyfyngder. |
|
| 22 |
|
| Yn fy nychryn fe ddywedais, "Torrwyd fi allan o'th olwg." Ond clywaist lef fy ngweddi pan waeddais arnat am gymorth. |
|
| 23 |
|
| Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid. Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon, ond yn talu'n llawn i'r rhai balch. |
|
| 24 |
|
| Byddwch gryf a gwrol eich calon, yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD. |
|
|
|
|