Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I Ddafydd. Mascl.0 Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. |
| 2 |
| Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD yn cyfrif ei fai yn ei erbyn, ac nad oes dichell yn ei ysbryd. |
| 3 |
| Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod, a minnau'n cwyno ar hyd y dydd. |
| 4 |
| Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos; sychwyd fy nerth fel gan wres haf. Sela. |
| 5 |
| Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt, a pheidio chuddio fy nrygioni; dywedais, "Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD"; a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod. Sela. |
| 6 |
| Am hynny fe wedda pob un ffyddlon arnat ti yn nydd cyfyngder, a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr, ni fyddant yn cyrraedd ato ef. |
| 7 |
| Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder; amgylchi fi chaneuon gwaredigaeth. Sela. |
| 8 |
| Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri; fe gadwaf fy ngolwg arnat. |
| 9 |
| Paid bod fel march neu ful direswm y mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y dnt atat. |
| 10 |
| Daw poenau lawer i'r drygionus; ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD, bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu. |
| 11 |
| Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddwch, rai cyfiawn; canwch yn uchel, pob un o galon gywir. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/032.mp3
150
32