Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Salm Dafydd. Mascîl. [1] Mae'r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel wedi ei fendithio'n fawr, mae ei bechodau wedi eu symud o'r golwg am byth. |
| 2 |
| Mae'r un dydy'r ARGLWYDD ddim yn dal ati i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi ei fendithio'n fawr — yr un sydd heb dwyll yn agos i'w galon. |
| 3 |
| Pan oeddwn i'n cadw'n ddistaw am y peth, roedd fy esgyrn yn troi'n frau ac roeddwn i'n tuchan mewn poen drwy'r dydd. |
| 4 |
| Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd; doedd gen i ddim egni, fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf. Saib |
| 5 |
| Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod. Wnes i guddio dim byd. “Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD” meddwn i, ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl. Saib |
| 6 |
| Felly, pan mae rhywun sy'n dy ddilyn di'n ffyddlon yn darganfod ei fod wedi pechu, dylai weddïo arnat ti; rhag i'r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd. |
| 7 |
| Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti'n fy amddiffyn i rhag trafferthion. Mae pobl o'm cwmpas yn dathlu'n llawen am dy fod ti wedi achub. Saib |
| 8 |
| Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi, a'ch helpu chi i wybod sut i fyw. Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb. |
| 9 |
| Peidiwch bod yn ystyfnig fel mul sy'n gwrthod bod yn ufudd, neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno. |
| 10 |
| Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr, ond mae'r ARGLWYDD yn hollol ffyddlon i'r rhai sy'n ei drystio fe. |
| 11 |
| Felly chi sy'n gwneud beth sy'n iawn, Dathlwch beth mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud! Gorfoleddwch! Bloeddiwch yn llawen, bawb sy'n byw'n gywir! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/032.mp3
150
32