×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 33

1
Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn; i'r rhai uniawn gweddus yw moliant.
2
Molwch yr ARGLWYDD 'r delyn, canwch salmau iddo 'r offeryn dectant;
3
canwch iddo gn newydd, tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.
4
Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD, ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5
Y mae'n caru cyfiawnder a barn; y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6
Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd, a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7
Casglodd y mr fel du373?r mewn potel, a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.
8
Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD, ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.
9
Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu; gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.
10
Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim, a difetha gynlluniau pobloedd.
11
Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth, a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.
12
Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi, y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.
13
Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd, ac yn gweld pawb oll;
14
o'r lle y triga y mae'n gwylio holl drigolion y ddaear.
15
Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt, y mae'n deall popeth a wnnt.
16
Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin, ac nid nerth mawr yr achubir rhyfelwr.
17
Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth; er ei holl gryfder ni all roi ymwared.
18
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna, ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb,
19
i'w gwaredu rhag marwolaeth a'u cadw'n fyw yng nghanol newyn.
20
Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD; ef yw ein cymorth a'n tarian.
21
Y mae ein calon yn llawenychu ynddo am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd.
22
O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom, fel yr ydym wedi gobeithio ynot.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau