Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD.0 Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon; nid oes ofn Duw ar ei gyfyl. |
| 2 |
| Llwydda i'w dwyllo ei hun na ellir canfod ei ddrygioni i'w gasu. |
| 3 |
| Niwed a thwyll yw ei holl eiriau; peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda. |
| 4 |
| Cynllunia ddrygioni yn ei wely; y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir, ac nid yw'n gwrthod y drwg. |
| 5 |
| Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd, a'th ffyddlondeb hyd y cymylau; |
| 6 |
| y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel a'th farnau fel y dyfnder mawr; cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD. |
| 7 |
| Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw! Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd. |
| 8 |
| Fe'u digonir llawnder dy du375?, a diodi hwy o afon dy gysuron; |
| 9 |
| oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd, ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni. |
| 10 |
| Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnabod a'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon. |
| 11 |
| Na fydded i'r troed balch fy sathru, nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan. |
| 12 |
| Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo, wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/psalms/036.mp3
150
36