Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr ARGLWYDD. Oracl. [1] Mae'r duedd i droseddu yn ddwfn yng nghalon un drwg; does ganddo ddim parch at Dduw o gwbl. |
| 2 |
| Mae e mor llawn ohono'i hun, mae'n ddall ac yn methu gweld y drygioni i'w gasáu. |
| 3 |
| Mae popeth mae e'n ddweud yn ddrwg ac yn dwyllodrus; dydy e'n poeni dim am wneud daioni. |
| 4 |
| Mae e'n gorwedd ar ei wely yn cynllwynio; mae e'n dilyn llwybr sydd ddim yn dda, ac yn gwrthod troi cefn ar ddrygioni. |
| 5 |
| O ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na'r nefoedd; mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i'r cymylau! |
| 6 |
| Mae dy haelioni di mor gadarn a'r mynyddoedd uchel; mae dy gyfiawnder yn ddwfn fel y moroedd. Ti'n gofalu am bobl ac anifeiliaid, ARGLWYDD. |
| 7 |
| Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw! Mae'r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd. |
| 8 |
| Maen nhw'n cael bwyta o'r wledd sydd yn dy dŷ, ac yn cael yfed dŵr dy afon hyfryd di. |
| 9 |
| Ti ydy'r ffynnon sy'n rhoi bywyd; dy olau di sy'n rhoi'r gallu i ni weld. |
| 10 |
| Dal ati i ofalu am y rhai sy'n ffyddlon i ti, ac achub gam y rhai sy'n byw'n gywir. |
| 11 |
| Paid gadael i'r rhai balch fy sathru dan draed, nac i'r rhai drwg fy ngwneud i'n ddigartref. |
| 12 |
| Dw i'n gweld y rhai sy'n gwneud drygioni wedi syrthio! Dacw nhw wedi eu bwrw i lawr! Maen nhw'n methu codi! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/psalms/036.mp3
150
36