|
| 1 |
|
| 1 I Ddafydd.0 Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. |
|
| 2 |
|
| Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt, a chrino fel glesni gwanwyn. |
|
| 3 |
|
| Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. |
|
| 4 |
|
| Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon. |
|
| 5 |
|
| Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda. |
|
| 6 |
|
| Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd. |
|
| 7 |
|
| Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gu373?r sy'n gwneud cynllwynion. |
|
| 8 |
|
| Paid digio; rho'r gorau i lid; paid bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny. |
|
| 9 |
|
| Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir. |
|
| 10 |
|
| Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus; er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael. |
|
| 11 |
|
| Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir ac yn mwynhau heddwch llawn. |
|
| 12 |
|
| Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn, ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno; |
|
| 13 |
|
| ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben, oherwydd gu373?yr fod ei amser yn dyfod. |
|
| 14 |
|
| Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf ac yn plygu eu bwa, i ddarostwng y tlawd a'r anghenus, ac i ladd yr union ei gerddediad; |
|
| 15 |
|
| ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain, a thorrir eu bwu. |
|
| 16 |
|
| Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na chyfoeth mawr y drygionus; |
|
| 17 |
|
| oherwydd torrir nerth y drygionus, ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn. |
|
| 18 |
|
| Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius, ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth. |
|
| 19 |
|
| Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn. |
|
| 20 |
|
| Oherwydd fe dderfydd am y drygionus; bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tn, pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg. |
|
| 21 |
|
| Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n l, ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog. |
|
| 22 |
|
| Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir, ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo. |
|
| 23 |
|
| Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius, y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad; |
|
| 24 |
|
| er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal 'i law. |
|
| 25 |
|
| Bm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na'i blant yn cardota am fara; |
|
| 26 |
|
| y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg, a'i blant yn fendith. |
|
| 27 |
|
| Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda, a chei gartref diogel am byth, |
|
| 28 |
|
| oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus. |
|
| 29 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth. |
|
| 30 |
|
| Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, a'i dafod yn mynegi barn; |
|
| 31 |
|
| y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon, ac nid yw ei gamau'n methu. |
|
| 32 |
|
| Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawn ac yn ceisio cyfle i'w ladd; |
|
| 33 |
|
| ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law, nac yn caniatu ei gondemnio pan fernir ef. |
|
| 34 |
|
| Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glu375?n wrth ei ffordd, ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir, a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith. |
|
| 35 |
|
| Gwelais y drygionus yn ddidostur, yn taflu fel blaguryn iraidd; |
|
| 36 |
|
| ond pan euthum heibio, nid oedd dim ohono; er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael. |
|
| 37 |
|
| Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn; oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon. |
|
| 38 |
|
| Difethir y gwrthryfelwyr i gyd, a dinistrir disgynyddion y drygionus. |
|
| 39 |
|
| Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD; ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd. |
|
| 40 |
|
| Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed; bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub, am iddynt lochesu ynddo. |
|
|
|
|