|
| 1 |
|
| 1 Salm. I Ddafydd, er coffadwriaeth.0 ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid, ac na chosba fi yn dy ddig. |
|
| 2 |
|
| Suddodd dy saethau ynof, y mae dy law yn drwm arnaf. |
|
| 3 |
|
| Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd, nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod. |
|
| 4 |
|
| Aeth fy nghamweddau dros fy mhen, y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal. |
|
| 5 |
|
| Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawni oherwydd fy ffolineb. |
|
| 6 |
|
| Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr, ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd. |
|
| 7 |
|
| Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn, ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. |
|
| 8 |
|
| Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr, ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon. |
|
| 9 |
|
| O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti, ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt. |
|
| 10 |
|
| Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu, a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd. |
|
| 11 |
|
| Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla, ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw. |
|
| 12 |
|
| Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau, a'r rhai sydd am fy nrygu yn sn am ddinistr ac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd. |
|
| 13 |
|
| Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed, ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau. |
|
| 14 |
|
| Bm fel un heb fod yn clywed, a heb ddadl o'i enau. |
|
| 15 |
|
| Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais; ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw. |
|
| 16 |
|
| Oherwydd dywedais, "Na fydded llawenydd o'm plegid i'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed." |
|
| 17 |
|
| Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio, ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser. |
|
| 18 |
|
| Yr wyf yn cyffesu fy nghamwedd, ac yn pryderu am fy mhechod. |
|
| 19 |
|
| Cryf yw'r rhai sy'n elynion imi heb achos, a llawer yw'r rhai sy'n fy nghasu ar gam, |
|
| 20 |
|
| yn talu imi ddrwg am dda ac yn fy ngwrthwynebu am fy mod yn dilyn daioni. |
|
| 21 |
|
| Paid 'm gadael, O ARGLWYDD; paid mynd yn bell oddi wrthyf, O fy Nuw. |
|
| 22 |
|
| Brysia i'm cynorthwyo, O Arglwydd, fy iachawdwriaeth. |
|
|
|
|