×

Beibl Cymraeg 2023

Salmau 38

1
Salm Dafydd. I'th atgoffa. [1] O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i, a dweud y drefn yn dy wylltineb.
2
Mae dy saethau wedi fy anafu; mae dy law wedi fy nharo i.
3
Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di! Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu.
4
Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario.
5
Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi; a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp.
6
Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohona i'n hun. Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd.
7
Mae fy ochrau'n boenus i gyd; dw i'n teimlo'n sâl trwyddo i.
8
Mae rhyw boen mud yn fy llethu'n llwyr. Dw i'n griddfan mewn gwewyr meddwl.
9
O ARGLWYDD, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau! Rwyt ti wedi clywed fi'n griddfan.
10
Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym; does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg.
11
Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i; a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd.
12
Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi, a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad y faleisus ac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg.
13
Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar — yn gwrthod gwrando. Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud — yn dweud dim.
14
Dw i'n clywed dim, a dw i ddim am ddadlau gyda nhw.
15
Ond ARGLWYDD, dw i'n disgwyl amdanat ti; byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw.
16
Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!” Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro!
17
Dw i'n darfod amdana i! Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg.
18
Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg. Dw i'n poeni am fy mhechod.
19
Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos! Cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm!
20
Pobl sy'n talu drwg am dda, ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn.
21
Paid gadael fi, ARGLWYDD! O Dduw, paid ti cadw draw!
22
Brysia! Helpa fi, O ARGLWYDD, fy achubwr!
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau