×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Salmau 39

1
1 I'r Cyfarwyddwr: i Jeduthun. Salm. I Ddafydd.0 Dywedais, "Gwyliaf fy ffyrdd, rhag imi bechu 'm tafod; rhof ffrwyn ar fy ngenau, pan fo'r drygionus yn f'ymyl."
2
Bm yn fud a distaw, cedwais yn dawel, ond i ddim diben; gwaethygodd fy mhoen,
3
llosgodd fy nghalon o'm mewn; wrth imi fyfyrio, cyneuodd tn a thorrais allan i ddweud,
4
"ARGLWYDD, pr imi wybod fy niwedd, a beth yw nifer fy nyddiau; dangos imi mor feidrol ydwyf.
5
Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd, ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg; yn wir, chwa o wynt yw pob un byw, Sela.
6
ac y mae'n mynd a dod fel cysgod; yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra, ac ni u373?yr pwy fydd yn ei gasglu.
7
"Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf? Y mae fy ngobaith ynot ti.
8
Gwared fi o'm holl droseddau, paid 'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.
9
Bm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg, oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.
10
Tro ymaith dy bla oddi wrthyf; yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.
11
Pan gosbi rywun cherydd am ddrygioni, yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn; yn wir, chwa o wynt yw pawb. Sela.
12
Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD, a rho glust i'm cri; paid diystyru fy nagrau. Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf, a phererin fel fy holl hynafiaid.
13
Tro draw oddi wrthyf, rho imi lawenydd cyn imi fynd ymaith a darfod yn llwyr."
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau